Dysgu sut i gasglu tystiolaeth
1. Gosod amcanion
Cyn i chi ddechrau casglu tystiolaeth o ganlyniadau dysgu, dylech benderfynu ar y canlynol
- Pam ydych chi’n casglu’r tystiolaeth yma
- Pa fath o wybodaeth byddwch chi’n casglu
- Pwy fydd yn ei gasglu
- Pryd fydd yn cael ei gasglu
- Sut i ddefnyddio’r canlyniadau i wella’r hyn rydych yn gwneud
Beth ydych chi eisiau darganfod? Cadwch hi’n syml ac i’r pwynt
- Beth yw canlyniadau dysgu ymweliad ag archif?
- Pa wybodaeth newydd dysgodd y myfyrwyr yn ystod ymweliad i arddangosfa penodol a sut ychwanegodd y wybodaeth at eu dealltwriaeth?
- Sut fu ddefnyddio’r llyfrgell newid agweddau tuag at lyfrgelloedd a dysgu?
Rydych chi’n ceisio deall
- Os bod dysgu’n digwydd, sut mae dysgu’n digwydd a pha ddysgu bydd yn digwydd
- Beth yw canlyniad y dysgu hwn ar gyfer y bobl sy’n cymryd rhan
- Syniad o beth fydd effaith cyffredinol y dysgu hwn
2. Adolygu data cyfredol
Adolygu’r data rydych chi wedi casglu’n barod
- Llyfrau sylwadau
- Taflenni gwerthuso athrawon
- Llythyron o ddefnyddwyr
- Arolwg Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth
- Arolygon defnyddwyr
- Ffurflenni gwerthuso prosiect
- Arall...
Ar gyfer pob ffynhonnell data, gofynnwch y cwestiwn: oes yna dystiolaeth o ddysgu?
- Oes
- Nac oes
- Efallai?
Adlewyrchwch ar y dull gorau o gasglu tystiolaeth o ddysgu
- Archwiliwch y ffynonellau data cyfredol ar gyfer tystiolaeth o Ganlyniadau Dysgu Cyffredinol – gallwch ymarfer y broses yma ar Profi eich gwybodaeth o Ganlyniadau Dysgu Cyffredinol
- Penderfynwch os oes angen i chi ddatblygu dulliau ymchwilio newydd – mae nifer o syniadau yn y Pecyn cymorth i ymchwilwyr
- Neu addaswch rhai o’ch offer ymchwilio cyfredol i ganfod tystiolaeth o ddysgu
3. Datblygu eich offer ymchwilio
Dethol eich dull ymchwilio
- A fydd yn cynhyrchu’r wybodaeth rydych chi angen?
- A fydd yn cynhyrchu data ansoddol neu meintiol?
- Ydych chi’n gallu mesur ansawdd, ystod ac amrywiaeth y dysgu?
- Ydy hi’n hawdd i’w ddefnyddio ac i’w weinyddu?
- Ydy hi’n ddirnadwy i’r grŵp targed ac yn addas ar eu cyfer?
- A oes angen i chi ei ddefnyddio ar y cyd â dull arall?
- Amseroldeb – pryd i’w wneud ac am ba mor hir?
- A fydd yn cynhyrchu sampl digon mawr?
- Pwy fydd yn gwneud yr ymchwil?
Bydd gwahanol ddulliau ymchwilio yn rhoi gwahanol fathau o ddata i chi
Data Meintiol
Bydd hwn yn eich helpu i ddangos pa mor aml mae pethau yn digwydd ymhlith segmentau penodol o’ch cynulleidfa.
Data Meintiol
- Bydd yn eich galluogi i asesu pa mor aml mae pethau’n digwydd o fewn pa segment o’ch cynulleidfa
- Caiff fel arfer ei gasglu trwy holiaduron neu arolygon gyda chwestiynau caeedig neu ddewis lluosog
- Neu defnyddir cyfweliadau yn seiliedig ar holiadur ble caiff yr atebwr y cyfle i ymateb i gyfres o gwestiynau caeedig neu ddewis lluosog
Data Ansoddol
Mae hwn yn ddefnyddiol ar gyfer archwilio a deall dysgu mewn mwy o ddyfnder. Bydd arolwg nodweddiadol yn cynnwys grŵp o tua 10-20 person.
Data Ansoddol
- Bydd yn eich darparu gyda llun manwl o beth sy’n digwydd o dan pa amodau
- Mae angen llawer iawn o atebwyr i sicrhau bod y sampl yn gynrychiadol
- Efallai targedir y sampl at gategori penodol o ddefnyddiwr neu efallai bydd yn cynrychioli croestoriad llydan o ddefnyddwyr
- Caiff ei gasglu gan ddefnyddio dulliau megis holiaduron agored, llyfrau sylwadau a grwpiau ffocws
4. Eich dull ymchwilio – Gostwng rhagfarn
Mae defnyddio’r Canlyniadau Dysgu Cyffredinol yn eich galluogi i strwythuro tystiolaeth o ddysgu bydd efallai fel arall yn cael ei labeli fel anwyddonol neu anecdotal. Cymerwch y camau hyn i ostwng rhagfarn
- Defnyddio mwy nag un dull - Triongli
Gall ddefnyddio dulliau amrywiol o fewn un prosiect ymchwil rhoi data i chi gellir ei gymharu a’i gyferbynnu i roi darlun mwy manwl, dibynadwy a chrwn. Gall ddefnyddio yr un dull gyda gwahanol fathau o gyfranogwyr roi bersbectifau gwahanol ar ddigwyddiad, gweithgaredd neu broses
- Byddwch yn systematig ac yn strwythuredig
Defnyddiwch y Canlyniadau Dysgu Cyffredinol i’ch helpu i strwythuro’r canlyniadau dysgu wrth i chi gasglu, ac adrodd ar, eich tystiolaeth. Gweithiwch gyda chydweithiwr i weld sut mae’ch barn ar y Canlyniadau Dysgu Cyffredinol yn gwahaniaethu. Mewn tipyn byddwch yn dechrau llunio ffordd systematig o feirniadu’r Canlyniadau Dysgu Cyffredinol eich hun
5. Eich dull ymchwilio – Ymagwedd gyson
Byddwch yn glir am beth rydych wedi gwneud i ganfod eich tystiolaeth
- Sut ydych chi wedi ei wneud e.e. pa ddulliau defnyddioch chi, y defnyddwyr a dargedwyd
- Pam ydych chi wedi ei wneud fel hyn
- Pwy gasglodd y wybodaeth
- Cyfyngiadau eich astudiaeth – beth na wnaethoch chi a pham
6. Eich dull ymchwilio – Moeseg
Dylech ystyried y materion canlynol
- Gonestrwydd – ydy’r sawl sydd yn rhan o’r ymchwil yn glir am sut a phryd y bydd yn cael ei ddefnyddio?
- Perchnogaeth – ydych chi angen caniatâd i ddefnyddio’r tystiolaeth rydych wedi casglu? O bwy fydd angen i chi gael y caniatâd – yn enwedig yn ymwneud â myfyrwyr neu blant?
- Diogelwch – ydych chi wedi ystyried diogelwch y bobl sy’n cymryd rhan gan gynnwys ymchwilwyr yn ogystal â’r sawl rydych chi’n targedu?
- Anhysbysedd a chyfrinachedd – ydych chi’n gallu sicrhau rhain?
- Unplygrwydd proffesiynol – ydych chi wedi gweithredu yn ôl hwn y gorau gallwch chi?
7. Datblygu eich dulliau ymchwilio
Defnyddiwch y Canlyniadau Dysgu Cyffredinol i ddatblygu cwestiynau penodol sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau dysgu
Gallwch addasu neu gynllunio dulliau ymchwilio sy’n annog pobl i ddisgrifio eu profiadau dysgu mewn ffyrdd y gallwch ddadansoddi. Mae gennych chi dri dewis
- Addasu un o’r dulliau ymchwil yn adran lawrlwythiadau y wefan hon ar gyfer eich gwaith
- Addasu un o’ch dulliau ymchwil cyfredol i ganolbwyntio ar ganlyniadau dysgu
- Mae rhai esiamplau yn y cronfa gwestiynau ymchwil (Word, 100kb)
- Neu beth am ddechrau o’r dechrau a chynllunio dull newydd wedi seilio ar y Canlyniadau Dysgu Cyffredinol
8. Codio a dadansoddi data
Codio data
Mae codio yn eich helpu i ddefnyddio’r Canlyniadau Dysgu Cyffredinol
- i drefnu eich data
- i ddadansoddi hwn trwy ei archwilio a’i ddadansoddi mewn modd cadarn a chyson
- i ddangos trywydd archwilio clir o’r data a gasglwyd, trefnwyd a dadansoddwyd
- a cofiwch bod rhaid codio’r data cyn gallwch ei ddadansoddi a’i ddehongli
Beth am i chi roi tro ar godio data gyda chwis rhyngweithiol profwch eich gwybodaeth o Ganlyniadau Dysgu Cyffredinol
Dadansoddi data
Esiampl o sut gallwch fynd ati i ddadansoddi data
- Dewiswch sampl o tua 100 ymateb, er enghraifft cardiau sylwadau
- Cyfrwch sawl un o’r atebwyr sydd wedi darparu tystiolaeth gryf o ddysgu a mynegwch y rhif hwn fel canran o’r cyfanswm
- Grwpiwch y data i mewn i gategorïau, yn dibynnu ar beth rydych yn ceisio darganfod, e.e. yn ôl cynulleidfa - oedolyn/plentyn, neu yn ôl Canlyniad Dysgu Cyffredinol - sgiliau, ymagwedd ayyb
- Cyfrwch nifer y sylwadau a chyfrifwch canlyniadau eich ymchwil, er enghraifft – o nifer y sylwadau a roddodd tystiolaeth gryf o ddysgu, nodwch y nifer o fewn y rhain a ddangosodd bod sgiliau newydd wedi cael eu dysgu. Yna fe allwch nodi sawl un ohonynt oedd yn oedolion a sawl un oedd yn blant, er enghraifft
- Yna dechreuwch wneud cyferbyniadau a chymariaethau
Mae dau templed sy’n esbonio sut i osod taenlen Excel i ddadansoddi’ch data
9. Cyflwyno eich tystiolaeth
Ystyr ac arwyddocâd eich canlyniadau
- Beth ydych chi’n gwybod am yr hyn mae pobl wedi dysgu?
- A oes angen i chi ddarganfod mwy am fath penodol o ddefnyddiwr neu am fath penodol o ddysgu?
- Sut mae hyn yn newid, neu’n ychwanegu at, y darlun sydd gennych chi’n barod?
- Sut ydych chi’n mynd i ddefnyddio’r tystiolaeth hon i wella’r hyn rydych yn gwneud?
Gallwch ddefnyddio’r templed hwn o Strwythur adroddiad (Word, 46kb) yn dangos y pynciau/penawdau allweddol y dylech gynnwys mewn adroddiad yn nodi prif ganlyniadau eich rhaglen/prosiect.
