Mesur canlyniadau

Canlyniadau Dysgu a Chymdeithasol Cyffredinol
Mae’r Fframwaith Annog Dysgu yn helpu amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau i gasglu a dangos eu heffaith trwy ganfod canlyniadau dysgu a chymdeithasol cyffredinol ar gyfer unigolion a chymunedau.
Bydd yr adran hon o’r wefan yn eich helpu i nodi’r canlynol
- Amcanion a chanlyniadau clir y prosiect/gweithgaredd rydych yn mynd i werthuso
- Pa ganlyniadau dysgu neu gymdeithasol cyffredinol bydd yn eich helpu i fesur yr amcanion hyn
- Pa ddulliau ac offer byddai orau i’w defnyddio –gall y pecyn cymorth i ymchwilwyr eich cynorthwyo gyda hyn
- Eich cynhwysedd i reoli’r data y byddwch yn casglu
- Sut byddwch yn dadansoddi’ch canlyniadau – gall rhestrau gwirio Annog Dysgu hefyd eich cynorthwyo
COFIWCH nid oes angen i chi ddefnyddio pob canlyniad wrth i chi werthuso eich prosiect/gweithgaredd.
Gallwch ddefnyddio’ch canfyddiadau
- i ddatblygu a gwella eich trefniad o’r rhaglen
- i ddatblygu partneriaethau newydd
- i gefnogi cais am gyllid
