Amgueddfeydd

Astudiaethau achos amgueddfeydd Annog Dysgu
Bydd dewis astudiaeth achos isod yn mynd â chi i wefan Adnoddau Ymchwil MLA, sy’n cynnwys astudiaethau achos o amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau. Defnyddiwch y botwm ôl ar eich porwr i ddychwelyd i’r tudalennau hyn.
Amgueddfa ac Oriel Gelf Blackburn: Allgymorth Cychwyn Cadarn
Roedd Dwylo Prysur yn brosiect allgymorth gyda’r bwriad o annog rhagor o deuluoedd o ardaloedd difreintiedig Blackburn i ymweld ag Amgueddfa ac Oriel Gelf Blackburn. Roedd yr amgueddfa wedi penodi arlunydd i weithio gyda’r grŵp Cychwyn Cadarn lleol yn eu cymuned. Cafodd effaith y prosiect ar y teuluoedd ei gwerthuso trwy ddefnyddio’r Canlyniadau Dysgu Cyffredinol.
Wrth i ni agosáu at ddeucanmlwyddiant diddymu’r fasnach gaethweision draws Iwerydd, mae Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl wedi partneru ysgolion yn Lerpwl, Brasil, Haiti, Senegal a Sierra Leone, i archwilio effaith ac etifeddiaeth caethwasiaeth ar gymunedau ar hyd y llwybr masnach. Roedd disgyblion wedi rhyngweithio ar-lein i siarad a dysgu rhagor am gaethwasiaeth a chynhyrchu ymatebion creadigol trwy gerflunwaith, dawns a ffilm. Gwerthuswyd y prosiect trwy ddefnyddio’r Canlyniadau Dysgu Cyffredinol.
Mae’r prosiect amgueddfa ac oriel e-ddysgu hwn yn dangos sut y gall y sector diwylliannol weithio mewn ffyrdd arloesol a chyffrous o fewn Gwasanaethau Estynedig. Fe’i werthuswyd gan ddefnyddio’r Fframwaith Annog Dysgu.
Amgueddfeydd Tyne a Wear yn gosod y GSOs wrth galon datblygu gwasanaeth (Word, 107kb)
Defnyddiodd Amgueddfeydd Tyne a Wear y Canlyniadau Cymdeithasol Cyffredinol er mwyn asesu effaith eu harddangosfa o’r enw Sinema India: Celfyddyd Bollywood. Daethant i ddeall sut roedd y GSOs wedi eu helpu i gynllunio eu gwasanaeth a myfyrio ar sut y gallen nhw wneud pethau’n wahanol ac yn well trwy
- Gynyddu nifer y gweithgareddau neu raglenni gydag effaith gymdeithasol gref
- Sicrhau bod y gweithgareddau i gyd wedi’u cynllunio gydag effaith gymdeithasol mewn golwg
- Sicrhau bod effaith gymdeithasol gweithgareddau a rhaglenni yn cael ei mesur
Gallwch chwilio am astudiaethau achos pellach ar wefan Adnoddau Ymchwilio MLA
