Llyfrgelloedd

Astudiaethau achos llyfrgelloedd Annog Dysgu
Bydd dewis astudiaeth achos isod yn mynd â chi i wefan Adnoddau Ymchwil MLA, sy’n cynnwys astudiaethau achos o amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau. Defnyddiwch y botwm ôl ar eich porwr i ddychwelyd i’r tudalennau hyn.
Llyfrgelloedd Tameside:Prosiect Chwarae a Dysgu Teuluoedd Digartref
Datblygodd Llyfrgelloedd Tameside ac Ymddiriedolaeth Tai’r Siarter Newydd raglen o weithgareddau ar gyfer plant 5–13 oed a oedd yn byw dros dro yn yr Uned i Bobl Ddigartref i hyrwyddo defnydd o’r llyfrgell. Gwerthuswyd y prosiect gan ddefnyddio’r Canlyniadau Dysgu Cyffredinol.
Gwasanaethau Llyfrgell Ynys Wyth yn defnyddio’r GSOs i feithrin partneriaethau
Asesodd Gwasanaeth Llyfrgell Ynys Wyth effaith Rhyme Times – sesiynau blynyddoedd cynnar rhyngweithiol ar gyfer plant o dan ddwy flwydd oed a’u gofalwyr – gan ddefnyddio’r Canlyniadau Cymdeithasol Cyffredinol. Gweithiodd Llyfrgell Cowes mewn partneriaeth â chanolfan iechyd lleol i ystyried y canlyniadau ar gyfer y teuluoedd o dan sylw o bersbectifau gwahanol.
Gallwch chwilio am astudiaethau achos pellach ar wefan Adnoddau Ymchwil MLA
