Archifau

Astudiaethau achos archifau Annog Dysgu
Bydd dewis astudiaeth achos isod yn mynd â chi i wefan Adnoddau Ymchwil MLA, sy’n cynnwys astudiaethau achos o amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau. Defnyddiwch fotwm ôl eich porwr i ddychwelyd i’r tudalennau hyn.
Gweithiodd Swyddfa Gofnodion Hampshire, Amgueddfa Westbury Manor ac awdures blant Judy Waite gyda’i gilydd i ddarparu sesiynau ysgrifennu creadigol ar gyfer plant mewn tair ysgol gynradd yn Fareham. Gwerthuswyd Write on Fareham trwy ddefnyddio’r Canlyniadau Dysgu Cyffredinol.
Llwyddodd y prosiect hwn i sicrhau bod cyfres o gasgliadau, heb eu catalogїo, am waith a gwleidyddiaeth yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, ar gael i gynulleidfaoedd newydd. Defnyddiwyd y Fframwaith Annog Dysgu mewn sesiynau allgymorth i gefnogi datblygu gwasanaeth a chynllunio.
Royal Northern College of Music: Adnoddau Trawsgwricwlaidd CA3 (Hanes Thomas Pitfield)
Mae gan y Royal Northern College of Music adnoddau gwerthfawr am y cyfansoddwr nodedig Thomas Pitfield a anwyd yn Bolton. Roedd yr archifydd wedi gweithio mewn partneriaeth ag athro i ddatblygu adnoddau cyfnod allweddol 3 a werthuswyd trwy ddefnyddio’r Canlyniadau Dysgu Cyffredinol.
Gallwch chwilio am astudiaethau achos pellach ar wefan Adnoddau Ymchwil MLA
