Pob lawrlwythiad

Eich llyfrgell lawrlwytho gyflawn
Yn yr adran hon, gallwch bori pob un o’r dogfennau a rennir yn y pedwar maes canlynol
- Sut rydyn ni’n diffinio dysgu
- Rhestrau gwirio Annog Dysgu
- Dulliau ymchwil a chanllawiau
- Templedi, arolygon a chynlluniau gweithredu
Sut rydyn ni’n diffinio dysgu
-
Beth rydych chi’n credu am gyrff sy’n dysgu? (Word, 43kb)
Mae’r ddogfen hon yn archwilio pa nodweddion a gysylltir â chorff sy’n dysgu
-
Gweithgaredd dulliau dysgu (Word, 52kb)
Gweithgaredd y gallech ei wneud gyda’ch staff neu ddefnyddwyr i ddarganfod y dulliau dysgu o’u dewis.
-
Amlinelliad sesiwn hyfforddi: diffinio dysgu (Word, 52kb)
Bwriedir i’r sesiwn hyfforddi hon gael ei defnyddio gyda grwpiau o hyd at 15 o staff sy’n gweithio gydag hwylusydd, er mwyn eu helpu i archwilio’r diffiniad eang o ddysgu a fabwysiadwyd gan Annog Dysgu. Bwriedir i’r sesiwn gymryd hyd at 1.5 awr.
- Adeiladu tîm dysgu (Word, 58kb)
Dogfen i’ch helpu i adeiladu tîm dysgu. Mae’n nodi bod angen cadw’r ddysgl yn wastad rhwng cyflawni tasg a darparu cyfleoedd i ystyried y broses ei hunan er mwyn hyrwyddo dysgu unigol a thorfol o fewn y corff.
Rhestrau gwirio Annog Dysgu
- Fframwaith manwl (PDF, 3,094kb)
Mae’r ddogfen hon yn nodi fframwaith manwl y canlyniadau a ddisgwylir trwy ddefnyddio offeryn cynllunio hunanasesu Pobl, Lleoedd, Partneriaethau a Pholisїau.
- Crynodeb canlyniadau a phrosesau (pdf, 1366kb)
Mae Annog Dysgu yn ymwneud â chanlyniadau yn ogystal â phrosesau. Crynhoir canlyniadau a phrosesau yn y ddogfen 2 dudalen hon.
- Rhestr wirio gyflym (PDF, 34kb)
Bydd y rhestr wirio gyflym yn rhoi darlun cyffredinol ichi o’ch cryfderau presennol, blaenoriaethau ar gyfer gwella a pha feysydd y bydd angen ichi ganolbwyntio arnynt i gael asesiad mwy manwl.
- Rhestr wirio fanwl – pobl (PDF, 88kb)
- Rhestr wirio fanwl – lleoedd (PDF, 64kb)
- Rhestr wirio fanwl – partneriaethau (PDF, 54kb)
- Rhestr wirio fanwl – polisїau (PDF, 58kb)
Rhestrau gwirio ac offer codio Canlyniadau Dysgu Generig
- Rhestr wirio GLO (Word, 211kb)
Mae’n darparu arolwg o bob un o’r pum Canlyniad Dysgu Generig.
- Rhagor am y GLOs (Word, 243 kb)
Mae’n rhoi enghreifftiau o’r mathau o ddatganiadau sy’n cynnig dolen i bob Canlyniad Dysgu Generig.
- Cofnodi a dadansoddi data ansoddol (Word, 46kb)
Offeryn sy’n eich helpu i gofnodi a chanfod pa ddatganiadau ansoddol sy’n perthyn i ba Ganlyniadau Dysgu Generig.
- Cofnodi a dadansoddi data meintiol (Word, 80kb)
Offeryn sy’n eich helpu i gofnodi a chanfod pa fathau o ddata meintiol sy’n perthyn i ba Ganlyniadau Dysgu Generig.
- Ymarfer eich codio GLO (Word, 61kb)
Offeryn i’ch helpu i ganfod pa ddatganiad sy’n perthyn i ba Ganlyniad Dysgu Generig.
- Templed taenlen ar gyfer dadansoddi data ansoddol (Excel, 34kb)
- Templed taenlen ar gyfer dadansoddi data meintiol (Excel, 32kb)
Mae’r ddau dempled hyn yn egluro sut i osod taenlen Excel i ddadansoddi’ch data.
Dulliau ymchwil a chanllawiau
- Dulliau ymchwil (pdf, 89kb)
Mae’r tabl hwn yn nodi cryfderau dulliau ymchwil gwahanol i’ch helpu i ganfod y dull mwyaf priodol ar gyfer eich rhaglen neu’ch gweithgaredd
- Cronfa gwestiynau ymchwil (Word, 100kb)
Cronfa gwestiynau sy’n cynnig cwestiynau ymchwil defnyddiol a pherthnasol i’ch helpu i addasu holiaduron. Rhennir cwestiynau yn gategorїau gan gynnwys: gwybodaeth a dealltwriaeth; sgiliau; agweddau a gwerthoedd; mwynhad, ysbrydoliaeth a chreadigedd a gweithgaredd, ymddygiad a dilyniant
- Canllawiau i annog defnyddwyr i gymryd rhan (Word, 38kb)
Mae’r ddogfen hon yn rhoi awgrymiadau defnyddiol ar sut i gael defnyddwyr i gymryd rhan wrth nodi cyfleoedd dysgu
- Dehongli delweddau gweledol (Word, 774kb)
Mae’r canllaw defnyddiol hwn yn eich helpu i ddehongli delweddau gweledol fel tystiolaeth ymchwil. Mae’n neilltuol o ddefnyddiol wrth ymchwilio i effaith eich gweithgaredd dysgu gyda phlant
- Canllaw grŵp ffocws (Word, 40kb)
Mae’r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth a chymorth ar sut i redeg grŵp ffocws
Templedi, arolygon a chynlluniau gweithredu
Mae’r adran hon yn cynnig arolygon a chynlluniau gweithredu enghreifftiol y gallwch eu lawrlwytho a’u haddasu.
Arolygon
- Arolwg ymadael (Word, 84kb)
Arolwg enghreifftiol, gydag awgrymiadau ar gyfer cynllunio’ch fersiwn eich hunan
- Holiadur profiad ymwelwyr (Word, 106kb)
Holiadur enghreifftiol a gynlluniwyd i annog ymatebion gwerthfawr i Ganlyniadau Dysgu Generig
- Holiadur e-bost (Word, 215kb)
Enghraifft o holiadur e-bost a ddefnyddiwyd i nodi canlyniadau ar gyfer myfyrwyr dysgu o bell
- Holiadur Blwyddyn 7 (Word, 56kb)
Enghraifft o holiadur a ddefnyddiwyd ar ymweliad dosbarth
Templedi
- Templed cynllun gweithredu (Word, 46kb)
Templed cynllun gweithredu y gallech ei addasu ar gyfer eich proses gynllunio’ch hunan
- Strwythur adroddiad (Word, 46kb)
Templed sy’n dangos y prif feysydd/benawdau y dylech eu cynnwys mewn adroddiad sy’n nodi prif ganlyniadau eich rhaglen/prosiect
