Beth yw’ch Dull Dysgu?

  • Mae’r holiadur hunanganfyddiad hwn yn seiliedig ar ddamcaniaeth Aml-ddeallusrwydd Howard Gardner
  • Bydd eich ymateb yn amrywio yn ôl eich hwyliau a’r cyd-destun dysgu, ac mae’n debyg y bydd mwy nag un dewis gyda chi 
  • Po fwyaf y dysgwn ddefnyddio amrywiaeth lawn o ddeallusrwydd, y mwyaf effeithiol y byddwn fel dysgwyr. Mae’n bwysig cofio hyn.

1. Mae ymarfer corfforol yn fy helpu i weithio trwy broblemau

Dysgwyr cinesthetig

Gallwch ddefnyddio’ch corff mewn ffyrdd gwahaniaethol a medrus iawn. Byddwch yn dysgu orau trwy wneud, lle mae symudiad corfforol yn cynorthwyo’r cof. Mae llawer o fechgyn yn ddysgwyr cinesthetig ac maent yn ymateb yn dda i arddangosfeydd rhyngweithiol a chyfleon i deimlo, cyffwrdd a thrafod, defnyddio cyfrifiaduron a gwneud pethau. Mae’n bosibl y byddwch yn aflonydd ac yn hoffi symud o gwmpas yn ystod gweithgareddau dysgu.

2. Yn aml bydda i’n sylwi ar bethau na fydd eraill yn sylwi arnynt

Dysgwyr gweledol a gofodol

Mae gennych atgof gweledol da iawn a byddwch yn gallu cofio golygfeydd, gwrthrychau neu wynebau am flynyddoedd maith. Rydych yn hoffi gwybodaeth a gyflwynir yn weledol megis siartiau, lluniau, delweddau, arddangosfa geiriau allweddol, mapio’r cof a chysyniadau. Mewn amgueddfa, archif neu lyfrgell mae’n debyg y byddwch yn ymateb yn dda i arddangosfeydd sy’n weledol gyffrous, i fideo, ffotograffiaeth a ffilm, ac i ddefnydd lliw. 

3. Dw i’n hoffi gwneud rhestr “pethau i’w gwneud” a gweithio trwy hon gam wrth gam

Dysgwyr Mathemategol/rhesymegol

Rydych yn datrys problemau a gallwch lunio atebion heb eiriau. Rydych yn gweld patrymau a pherthnasau’n hawdd yn y byd o’ch cwmpas. Rydych yn hoffi gwybodaeth mewn trefn resymegol ac sy’n gwneud cysylltiadau cryf rhwng cysyniadau. Mewn arddangosfa amgueddfa, er enghraifft, rydych yn ymateb yn dda i ddilyniant rhesymegol trwy set o themâu neu syniadau. Mae’ch dull dysgu penodol yn ymateb yn dda i ddulliau dysgu traddodiadol. 

4. Dw i’n pryderu’n fawr am niwed amgylcheddol

Dysgwyr naturiaethol

Rydych yn mwynhau bod y tu allan a sylwi ar batrymau a rhythmau ym myd natur. Bydd synnwyr cryf gennych o’r hyn sy’n deg a byddwch am feddwl am effaith eich gweithredoedd ar y bobl sydd o’ch cwmpas. Mewn amgueddfa, archif neu lyfrgell byddwch yn mwynhau lleoedd sy’n agored i’r awyr â golau naturiol, a byddwch yn gwerthfawrogi cyfle i dreulio ychydig o amser y tu allan i’r adeilad fel rhan o’r ymweliad.

5. Dw i’n hoffi treulio amser ar fy mhen fy hunan, yn meddwl a myfyrio am bethau

Dysgwyr mewnbersonol

Rydych yn hunanysgogedig sy’n meddu ar gryn lawer o hunanwybodaeth. Rydych yn hoffi cael amser ar gyfer myfyrio tawel a chyfle i ddatblygu’r hyn sydd ar eich meddwl a’i fynegi. Byddwch yn mwynhau treulio amser ar eich pen eich hunan mewn amgueddfa, archif neu lyfrgell, yn ymchwilio, meddwl a myfyrio ar y profiad cyn siarad ag eraill am hyn. 

6. Dw i’n mwynhau bod gyda phobl eraill a dw i’n sensitif i’w hwyliau

Dysgwyr rhyngbersonol

Gallwch ddeall a gweithio gydag eraill. Rydych yn ymateb yn gyflym i newidiadau mewn hwyliau ac yn addasu’ch ymddygiad yn unol â hynny. Rydych yn mwynhau trafodaethau a gwaith tîm. Rydych yn dda o ran rhoi a derbyn adborth. Rydych yn debygol o ymateb yn dda i drafodaethau a gweithgareddau grŵp mewn amgueddfa, archif neu lyfrgell.

 

7. Dw i’n hoffi siarad am broblemau a dw i’n mwynhau dadl fywiog

Dysgwyr ieithyddol

Rydych yn sensitif i ystyr geiriau, eu trefn, eu seiniau, eu rhythm a’u ffurfdro, a’u gallu i newid hwyliau, darbwyllo neu drosglwyddo gwybodaeth. Bydd llawer o’r cyfleoedd dysgu mewn amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yn apelio at eich deallusrwydd dysgu penodol. Bydd llawer o’r bobl y mae gwaith mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau yn apelio atynt yn ddysgwyr ieithyddol. 

8. Dw i’n gallu adalw geiriau caneuon yn hawdd

Dysgwyr cerddorol

Mae gennych atgof clywedol da a byddwch yn gallu ymarfer neu ragweld sefyllfaoedd trwy eu ‘clywed’ nhw’n chwarae yn eich pen. Rydych yn ymateb yn dda i amrywiaeth o seiniau gan gynnwys seiniau amgylcheddol, cerddoriaeth a’r llais dynol. Byddwch yn mwynhau effeithiau sain, adrodd straeon, a cherddoriaeth mewn amgueddfa, oriel neu archif.

 

Mae’n bosibl eich bod wedi dod o hyd i ni drwy ddefnyddio’r geiriau allweddol neu’r ymadroddion canlynol: y4 Ps, Cynllunio gweithredu, Dadansoddi data, Archifau neu archif, Arferion Gorau, Astudiaethau achos, Rhestr wirio, Data Codio, Sector diwylliannol, Dulliau gwerthuso, Offer gwerthuso, Mae Pob Plentyn yn Bwysig, y Pedair Proses, Fframwaith, Ariannu, Canlyniadau Dysgu Cyffredinol, Canlyniadau Cymdeithasol Cyffredinol, GLOs, GSOs, CDC, CCC, Iechyd a lles, Gwella perfformiad, Annog Dysgu, Cynllun annog dysgu, Cynllun annog addysg, Dysgu, Corff sy’n dysgu, Dull dysgu, Llyfrgelloedd neu llyfrgell, Mesur effaith, Mesur dysgu, MLA, Y Cyngor Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau, Amgueddfeydd neu amgueddfa, Partneriaeth, Perfformiad, Hyrwyddo addysg, Holiaduron, Dulliau ymchwil, Offer ymchwil, Datblygu gwasanaeth, Gwella gwasanaeth, Cydlyniant cymdeithasol, Straeon llwyddiant, Pecyn cymorth, Buddion dysgu ehangach