Alinio Annog Dysgu i fframweithiau eraill

Dangos buddion dysgu ehangach
- Fframwaith Canlyniadau MLA
- Mae pob plentyn yn bwysig
- Amcanion y cwricwlwm
- Fframwaith sgiliau personol, dysgu a meddwl
- Egwyddorion craidd dysgu anffurfiol i oedolion
- RARPA (Adnabod a Chofnodi Cynnydd a Chyflawniad)
Fframwaith Canlyniadau MLA
Mae Fframwaith Canlyniadau MLA yn helpu amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau i egluro sut ydyn nhw’n cyfrannu at flaenoriaethau lleol.
Asesir Awdurdodau Lleol ar y canlyniadau maen nhw’n eu cyflawni mewn ardal leol gan ddewis 35 dangosydd o’r set genedlaethol sy’n cyfateb yn agosaf i’w blaenoriaethau lleol. Bernir eu perfformiad ar gasgliad o dargedi wedi’i seilio ar y dangosyddion hyn.
Mae’n bwysig bod amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau’n gallu dangos y cyfraniad maen nhw’n ei wneud i ganlyniadau cymunedol ehangach ac yn gallu sicrhau hyn o fewn eu fframweithiau rheoli perfformiad lleol a sefydliadol. Bydd Fframwaith Canlyniadau MLA yn eich helpu i egluro sut rydych yn ychwanegu gwerth at ganlyniadau ehangach megis cydlyniant cymunedol a bydd yn helpu cryfhau’r achos o blaid buddsoddi mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau.
Rhagor am y Fframwaith Canlyniadau (Gwefan MLA)
Mae pob plentyn yn bwysig
Y strategaeth gyffredinol ar gyfer plant a phobl ifainc sy’n nodi pum canlyniad allweddol y gellir eu halinio i ganlyniadau dysgu a chymdeithasol cyffredinol Annog Dysgu.
- Byddwch yn iach
- Arhoswch yn ddiogel
- Mwynhewch a Chyflawnwch
- Gwnewch brofiad cadarnhaol
- Cyflawnwch les economaidd
Mae’r Canlyniadau Dysgu Cyffredinol yn alinio i ganlyniadau Mae Pob Plentyn yn Bwysig (pdf)
Amcanion y cwricwlwm (statudol yng Nghyfnod Allweddol 3 ac yn cael eu cyflwyno yng Nghyfnod Allweddol 1 a 2)
Cyflwynwyd tri amcan statudol newydd ar gyfer Cwricwlwm Cyfnod Allweddol 3 ym mis Medi 2008. Mae tîm Arolygu’r Cwricwlwm Cynradd wedi argymell yn yr adroddiad dros dro y dylid eu cyflwyno hefyd yng Nghyfnod Allweddol 1 a 2.
Mae’r tri amcan yn datgan y dylai plant a phobl ifanc i gyd gael cymorth i fod yn
- Ddysgwyr llwyddiannus – sy’n mwynhau dysgu, gwneud cynnydd a chyflawni
- Unigolion hyderus – sy’n gallu byw bywydau diogel, iach a difyr
- Dinasyddion cyfrifol – sy’n gwneud cyfraniad cadarnhaol at gymdeithas
Gellir disgrifio dysgwyr llwyddiannus fel plant sydd
- Yn greadigol, dyfeisgar ac yn gallu datrys problemau
- Â meddyliau chwilfrydig ac yn meddwl drostyn nhw eu hunain – gallan nhw resymu, cwestiynu a gwerthuso
- Yn gyfathrebwyr effeithiol
- Yn gallu dysgu’n annibynnol a chydag eraill
- Yn awyddus i gyflawni’r gorau y gallan nhw nawr ac yn y dyfodol a mwynhau dysgu
Gellir disgrifio unigolion hyderus fel y rhai hynny sy’n
- Meddu ar synnwyr o hunan-barch ac hunaniaeth bersonol
- Cysylltu’n dda ag eraill ac yn ffurfio perthnasau da
- Hunanymwybodol ac yn gallu rheoli eu hemosiynau
- Meddu ar werthoedd, credoau ac egwyddorion diogel ac yn gallu gwahaniaethu rhwng da a drwg
- Bodlon rhoi cynnig ar bethau newydd a gwneud y mwyaf o gyfleoedd
- Agored i gyffro ac ysbrydoliaeth a gynigir gan fyd natur a chyflawniadau dynol
Gellir disgrifio dinasyddion cyfrifol fel y rhai hynny sy’n
- Fentrus
- Gallu gweithio’n gydweithredol gydag eraill
- Parchu pobl eraill ac yn gweithredu gyda gonestrwydd
- Deall eu diwylliant a’u traddodiadau eu hunain yn ogystal â diwylliannau a thraddodiadau pobl eraill, ac yn meddu ar synnwyr cryf o’u lle eu hunain yn y byd
- Gallu cynnal a gwella’r amgylchedd, yn lleol a ledled y byd
Datblygwyd casgliad o fesurau atebol i asesu pa mor dda mae ysgolion yn cynorthwyo plant i gyflawni’r amcanion hyn. Gall amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau wneud cyfraniad i bob un ohonyn nhw. Mae’r Canlyniadau Dysgu Cyffredinol yn eich cynorthwyo i adnabod y cyfraniad hwn ac yn gallu eich helpu i feithrin partneriaethau effeithiol gydag ysgolion. Mae darlun mawr y cwricwlwm yn adnodd gweledol defnyddiol sy’n adnabod amcanion y cwricwlwm a mesurau atebol ehangach.
Darlun mawr o’r cwricwlwm (gwefan QCA)
Fframwaith sgiliau personol, dysgu a meddwl
Mae’r fframwaith hwn yn nodi chwe grŵp o sgiliau y mae angen i blant eu hennill i fod yn llwddiannus mewn addysg, bywyd a gwaith
- Ymchwilwyr annibynnol
- Meddylwyr creadigol
- Dysgwyr myfyriol
- Gweithwyr tîm
- Hunanreolwyr
- Cyfranogwyr effeithiol
Mae’r fframwaith yn nodi datganiadau o ganlyniadau sy’n dangos sgiliau, ymddygiadau a rhinweddau personol a gysylltir â phob grwp y gellir eu cysylltu hefyd â’r Canlyniadau Dysgu Cyffredinol.
Offeryn defnyddiol i’w ddefnyddio gan amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau ar gyfer datblygu arferion.
Fframwaith sgiliau personol, dysgu a meddwl (gwefan QCA)
Egwyddorion craidd dysgu anffurfiol i oedolion
Mae’r Adran Arloesedd, Prifysgolion a Sgiliau (DIUS) yn creu gweledigaeth newydd o ddysgu anffurfiol sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Bydd casgliad o egwyddorion craidd sy’n cefnogi dysgu anffurfiol i oedolion yn sylfaen i Strategaeth Dysgu Anffurfiol i Oedolion newydd y gellir ei arlinio i’r GLOs.
Mae’r egwyddorion yn nodi fod dysgu anffurfiol i oedolion yn cefnogi
- Dysgu gwybod – dysgu sut i ddysgu, ennill gwybodaeth a dealltwriaeth ohonon ni ein hunain, ein byd a’r tu hwnt
- Dysgu gwneud – ennill sgiliau, cymhwysedd a gallu ymarferol
- Dysgu byw gyda’n gilydd – dysgu goddefgarwch, deall ein gilydd a chyd-ddibyniaeth
- Dysgu bod – datblygu ein hunain, ein gallu meddyliol a chorfforol, lles ac ymreolaeth a’n gallu i reoli ein bywydau a dylanwadu ar y byd o’n cwmpas
RARPA (Adnabod a Chofnodi Cynnydd a Chyflawniad)
Datblygwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Barhaus i Oedolion (NIACE), mae fframwaith RARPA yn
- Hyrwyddo arferion da mewn addysgu a dysgu
- Gosod dysgwyr wrth wraidd y broses ddysgu
Mae fframwaith RARPA, sy’n llai ysgafn na’r Fframwaith Annog Dysgu, yn canoli ar daith ddysgu er mwyn olrhain dilyniant. Mae MLA Swydd Efrog a NIACE wedi llunio dogfen sy’n dangos sut mae’r Fframwaith Annog Dysgu yn gweithio gyda dull RARPA (Word, 1405kb). Hefyd mae’n cynnwys enghreifftiau o ddulliau i werthuso dysgu.
